Stuart Hancock

Stuart Hancock

Cyfansoddwr

Yn gyfansoddwr amryddawn ar draws ffilm, teledu a cherddoriaeth cyngerdd, mae Stuart Hancock wedi derbyn Gwobr Cyfansoddwr Prydeinig, Gwobr Ffilm a Theledu Harlod Arlen ASCAP, a Gwobr Jerry Goldsmith am y Cyfansoddwr Gorau. Enillodd ei sgôr cerddorfaol i’r rhaglen deledu animeiddiedig arbennig 'We're Going on a Bear Hunt' Wobrau Stuart Goldsmith a Music+Sound yn 2017, ac mae wedi arwain y sgôr-i-lun ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol ledled y byd.

Ymhlith ei weithiau sgorio nodedig eraill mae drama'r BBC 'Atlantis', comedi-arswyd Netflix 'Crazyhead' a rhaglenni dogfen ar gyfer History Channel a BBC Storyville. Yn 2023, cyfansoddodd Stuart ei drydedd opera ieuenctid, 'Pandora's Box', a lwyfannwyd gan London Youth Opera.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×