Neil Boyle

Neil Boyle

Cyfarwyddwr

Mae Neil yn gyfarwyddwr ac animeiddiwr sydd â’i waith yn cynnwys 'Love, Death + Robots', 'Fantastic Beasts: The Crimes of Grindelwald', 'Tom and Jerry', 'The Simpsons', 'Ethel & Ernest', 'Who Framed Roger Rabbit', a 'Space Jam'. Neil oedd prif animeiddiwr y rhaglen hynod lwyddiannus 'The Snowman and the Snowdog', a ddangoswyd ar Channel 4 dros y Nadolig i 11 miliwn o wylwyr.

Gwnaeth Neil gyfarwyddo a chyd-ysgrifennu’r ffilm fer 'The Last Belle', a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Llundain. Enwebwyd y ffilm hefyd am Wobr McLaren yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin ac enillodd Wobr Animeiddiad Gorau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Rhode Island.

Watch Neil Boyle's interview.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×