Sally Hawkins

Sally Hawkins

Mam

Yn Llundain y ganwyd yr actores Sally Hawkins. A hithau wedi graddio o’r Royal Academy of Dramatic Art ym 1988, mae wedi serennu mewn cynyrchiadau llwyfan, ffilm a theledu di-ri gan gynnwys: All or Nothing (2002), Tipping the Velvet (2002), Little Britain (2003), Layer Cake (2004), Vera Drake (2004) a Fingersmith (2005).  Enillodd ei pherfformiad fel Poppy yn Happy-Go-Lucky (2008) gan Mike Leigh sawl gwobr iddi gan gynnwys gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm Gerdd neu Gomedi.

Yn 2013, serennodd Sally Hawkins yn Blue Jasmine gan Woody Allen, gan dderbyn enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau.  Aeth ymlaen i chwarae prif rannau yn Made in Dagenham (2010), Paddington (2014), Maudie (2016) a Paddington 2 (2017).  Cafodd glod y beirniaid yn rhyngwladol am ei rôl yn The Shape of Water (2017) gan Guillermo del Torro ynghyd ag enwebiad arall am Wobr yr Academi am yr Actores Orau. Yn fwy diweddar, mae Sally wedi ymddangos yn Spencer (2022), gan ennill Gwobr Ryngwladol AACTA, a The Lost King (2022), gan ennill Gwobr Ffilmiau Annibynnol Prydain.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×