Raffey Cassidy

Raffey Cassidy

Becky

Gwnaeth Raffey Cassidy ei hymddangosiad actio cyntaf yn Spanish Flu: The Forgotten Fallen yn 2009 ac aeth ymlaen i ymddangos ochr yn ochr â Charlize Theron, Chris Hemsworth a Kristen Stewart yn Snow White and the Huntsmen (2012) a gyda Johnny Depp yn Dark Shadows gan Tim Burton (2012).  Ei rôl fawr oedd fel Athena, gyda George Clooney, yn Tomorrowland: A World Beyond gan Brad Bird (2015), gan dderbyn canmoliaeth eang gan y beirniaid. 

Mae hefyd wedi ymddangos ochr yn ochr â Brad Pitt yn y ddrama wedi’i seilio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Allied (2016), gyda Nicole Kidman a Colin Farrell yn The Killing of a Sacred Deer (2017), mewn rôl ddeuol fel fersiwn iau cymeriad Natalie Portman a merch Natalie Portman yn Vox Lux (2018) ac yn y brif ran gyferbyn â Michiel Huisman yn The Other Lamb (2019), a ddathlwyd yng Ngwyliau Ffilm Rhyngwladol San Sebastián a Toronto.  Yn ddiweddar bu’n serennu ochr yn ochr ag Adam Driver a Greta Gerwig yn White Noise (2022) a chyn hir bydd yn ymddangos yn ffilm newydd Brady Corbet, The Brutalist, gydag Adrien Brody a Felicity Jones.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×