Polisi Preifatrwydd
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Kensuke's Kingdom Limited yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Kensuke's Kingdom Limited pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon.
Mae Kensuke's Kingdom Limited wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod ohoni wrth ddefnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y caiff ei defnyddio.
Gall Kensuke's Kingdom Limited newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Daw’r polisi hwn i rym o 2 Chwefror 2024.
YR HYN A GASGLWN
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
- enw a rôl swydd
- cyfeiriad e-bost
- gwybodaeth ddemograffig fel lleoliad
- gwybodaeth arall sy'n berthnasol i ddeall sut y byddwch yn defnyddio ein hadnoddau
YR HYN A WNAWN Â'R WYBODAETH A GASGLWN
Mae angen y wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion a darparu gwell gwasanaeth i chi, ac yn arbennig am y rhesymau canlynol:
- Cadw cofnodion mewnol
- Adrodd i'n cefnogwyr gan gynnwys Ffilm Cymru Wales ac Into Film
- Mae’n bosibl y byddwn yn anfon holiadur am ein hadnoddau gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych
- Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i wella ein gwasanaethau
DIOGELWCH
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Rydym yn cadw data am gyhyd ag sydd ei angen mewn cysylltiad â’r diben y’i casglwyd ac y caiff ei brosesu ar ei gyfer. Fel rheol gyffredinol, ni fyddwn yn cadw eich data am fwy na chwe blynedd ar ôl dyddiad eich rhyngweithiad diwethaf â ni.
SUT RYDYM YN DEFNYDDIO CWCIS
Gweler ein Polisi Cwcis am y ffordd y mae ein defnydd o gwcis yn effeithio ar eich data personol.
DOLENNI I WEFANNAU ERAILL
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i'ch galluogi i ymweld yn hawdd â gwefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â gwefannau o’r fath ac nid yw gwefannau o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
RHEOLI EICH GWYBODAETH BERSONOL
Gallwch ddewis cyfyngu ar y modd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu neu’i defnyddio yn y ffordd ganlynol:
- Rhowch eich enw, cyfeiriad e-bost, rôl a lleoliad ar y Ffurflen Defnyddio Adnoddau dim ond os ydych chi'n cydsynio i ni gysylltu â chi i gael adborth ar yr adnoddau
- Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom: info@lupusfilms.com
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na lesio eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod gennym eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud hynny.
Gallwch ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gopi o'r wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch ysgrifennwch at Kensuke's Kingdom Limited, 339 Upper Street, London, N1 0PD.
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl, i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir ar unwaith.