

Dysgu
Kensuke’s Kingdom: Archwilio'r Anhysbys
Nod yr adnodd hwn yw trochi dysgwyr ym myd y ffilm ac mae’n addas i blant rhwng 8 ac 11 oed. Mae'n adnodd hyblyg a all gael ei gyflwyno mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.
Mae pob gweithgaredd cwricwlaidd wedi'i strwythuro fel cynllun gwers sy'n defnyddio’r ffilm ragflas, lluniau llonydd, cynnwys y tu ôl i'r llenni, a chyfweliadau unigryw â'r criw fel ysgogiad. Mae'r gweithgareddau animeiddio 2D yn datblygu sgiliau animeiddio pobl ifanc o lyfrau fflicio syml i ddefnyddio apiau digidol, gan eu hannog i ddatblygu eu hanimeiddiadau eu hunain wedi'u hysbrydoli gan y ffilm.